Rheol Sefydlog 26A – Deddfau Preifat y Cynulliad

Biliau Preifat

26A.1      At ddibenion Rheol Sefydlog 26A, mae Bil Preifat yn Fil a gyflwynir er mwyn sicrhau i berson unigol, corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau (“yr hyrwyddwr”) bwerau neu fanteision penodol sy’n fwy na’r gyfraith gyffredinol, neu sy’n gwrthdaro â hi.

26A.2      Mae Rheol Sefydlog 26A yn gymwys i unrhyw Fil Preifat heblaw un y bwriedir i’w ddarpariaethau awdurdodi neu hwyluso unrhyw waith adeiladu neu awdurdodi prynu’n orfodol unrhyw ystâd neu fuddiant mewn tir neu dros dir. At y dibenion hyn, rhaid peidio â barnu bod trosglwyddo unrhyw ystâd neu fuddiant mewn tir neu dros dir sy’n rhan o asedau person neu gorff sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus i berson neu gorff arall sydd hefyd yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus yn golygu prynu’r ystâd honno neu’r buddiant hwnnw yn orfodol.

Caniatâd i gyflwyno Bil Preifat

26A.3      Cyn cael eu cyflwyno yn unol â Rheol Sefydlog 26A.9, rhaid i Fil Preifat a’r dogfennau sy’n cyd-fynd ag ef y mae Rheol Sefydlog 26A.12 yn gofyn amdanynt gael eu hanfon gan yr hyrwyddwr at y Llywydd er mwyn i’r Llywydd benderfynu a ddylai ganiatáu i’r Bil gael ei gyflwyno.

26A.4      Rhaid i’r Llywydd roi gwybod i’r hyrwyddwr am ei benderfyniad o dan Reol Sefydlog 26A.3 ac, os na fydd caniatâd yn cael ei roi, rhaid i’r Llywydd roi rhesymau i’r hyrwyddwr dros y penderfyniad hwnnw.

26A.5      Rhaid i Fil Preifat beidio â chael ei gyflwyno heb gytundeb y Llywydd ymlaen llaw.

Ffioedd

26A.6      Caiff Comisiwn y Cynulliad godi ffi ar gyfer cyflwyno Bil Preifat, ac ar gyfer unrhyw gyfnodau dilynol o ystyried y Bil, fel y nodir yn Rheol Sefydlog 26A.

Ffurf Biliau Preifat a sut i’w Cyflwyno

26A.7      Caniateir i Fil Preifat gael ei gyflwyno ar ddiwrnod gwaith mewn wythnos eistedd.

26A.8      Rhaid i Fil Preifat gael ei gyflwyno drwy gael ei osod gan yr hyrwyddwr neu ar ei ran.

26A.9      Rhaid peidio â gosod Bil Preifat oni bai ei fod ar y ffurf briodol yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd.

26A.10    Pan gyflwynir Bil Preifat, rhaid cael datganiad Cymraeg a Saesneg gan y Llywydd i gyd-fynd ag ef a rhaid i’r datganiad hwnnw:

(i)            nodi a fyddai darpariaethau’r Bil, ym marn y Llywydd, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; a

(ii)            nodi unrhyw ddarpariaethau na fyddent, ym marn y Llywydd, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a’r rhesymau dros y farn honno.

26A.11    Rhaid i Fil Preifat gael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg ac eithrio pan na wneir hynny yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 26A.9.

Dogfennau i Gyd-fynd â Bil Preifat

26A.12    Ar yr un pryd ag y bydd yr hyrwyddwr yn cyflwyno Bil Preifat, rhaid hefyd iddo osod Memorandwm Esboniadol yn Gymraeg a Saesneg y mae’n rhaid iddo:

(i)     datgan y byddai darpariaethau’r Bil Preifat, ym marn yr hyrwyddwr, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad;

(ii)    nodi’r rhesymau pam y mae darpariaethau’r Bil yn ei gwneud yn briodol iddo fynd rhagddo fel Bil Preifat, gan roi sylw penodol i’r meini prawf yn Rheol Sefydlog 26A.38;

(iii)   nodi amcanion y Bil Preifat;

(iv)   nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil Preifat ei mabwysiadu;

(v)    nodi’r ymgynghori a gafwyd ar y canlynol:

(a)    amcanion y Bil Preifat a’r ffyrdd o’u gwireddu; a

(b)    manylion y Bil Preifat,

ynghyd â chrynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw;

(vi)   crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil Preifat ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil;

(vii)  cynnwys Datganiad Hyrwyddwr sy’n nodi:

(a)    yn achos Bil Preifat sy’n cynnwys darpariaeth a fydd yn effeithio ar eiddo neu ar hawliau neu ddyletswyddau contractiol unrhyw berson heblaw’r hyrwyddwr, fanylion unrhyw hysbysiad ynglŷn â’r ddarpariaeth arfaethedig a roddwyd gan yr hyrwyddwr i unrhyw bersonau neu ddosbarthiadau o berson yr effeithir ar ei eiddo neu ar ei hawliau neu ei ddyletswyddau contractiol a manylion unrhyw ymateb a gafwyd;

(b)    yn achos Bil Preifat lle mae’r hyrwyddwr yn gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau, fanylion penderfyniad ffurfiol y corff hwnnw neu’r gymdeithas honno i hyrwyddo’r Bil Preifat a chadarnhad bod y penderfyniad o dan sylw wedi’i wneud yn unol â chyfansoddiad y corff hwnnw neu’r gymdeithas honno;

(c)    yn achos Bil Preifat sy’n cynnwys darpariaeth i roi pwerau i unrhyw gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig o bersonau, heblaw’r hyrwyddwr, neu i ddiwygio’u cyfansoddiad, fanylion unrhyw hysbysiad ynglŷn â’r ddarpariaeth arfaethedig a roddwyd gan yr hyrwyddwr ir corff corfforaethol neur gymdeithas anghorfforedig o bersonau a manylion unrhyw ymateb a gafwyd.

Hysbysiad bod Bil Preifat wedi’i gyflwyno

26A.13    Cyn gynted ag y bydd Bil Preifat wedi’i gyflwyno, rhaid i’r hyrwyddwr, gan ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd, hysbysebu’n briodol, gan gynnwys cyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg ledled Cymru (neu, os yw’r Bil Preifat yn ymwneud ag un ardal yn unig yng Nghymru, ledled yr ardal honno) hysbysiad sy’n datgan:

(i)     effaith gyffredinol y Bil Preifat;

(ii)    y gall y Bil Preifat gael ei archwilio yn y Cynulliad ac mewn un neu ragor o fannau yng Nghymru gan gynnwys, yn achos Bil Preifat sy’n ymwneud ag un ardal yn unig yng Nghymru, fan yn yr ardal honno;

(iii)   y caiff personau sy’n credu y byddai’r Bil Preifat yn effeithio’n andwyol ar eu buddiannau wneud gwrthwynebiad i’r Llywydd yn ystod y cyfnod o 40 diwrnod gwaith sy’n dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysid gyntaf mewn papur newydd (“y cyfnod ymgynghori”);

(iv)   sut i gyflwyno gwrthwynebiad a’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gwrthwynebiad hwnnw, gan roi sylw i Reol Sefydlog 26A.18;

(v)    y caiff gwrthwynebiad ofyn naill ai i’r Bil Preifat beidio â chael ei gymeradwyo neu i newidiadau gael eu gwneud i’r Bil Preifat cyn iddo gael ei gymeradwyo;

(vi)   bod rhaid i’r person sy’n gwneud gwrthwynebiad gydymffurfio ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd ynghylch gwneud gwrthwynebiad.

26A.14    Cyn gynted ag y bydd yr hyrwyddwr wedi cydymffurfio â gofynion Rheol Sefydlog 26A.13, rhaid i’r hyrwyddwr roi hysbysiad ysgrifenedig o’r ffaith honno i’r Llywydd, gan roi manylion y canlynol:

(i)     sut y cydymffurfiwyd â’r gofynion hynny; a

(ii)    y trefniadau a wnaeth yr hyrwyddwr i sicrhau y gallai’r Bil Preifat gael ei archwilio (heblaw yn y Cynulliad) yn unol â Rheol Sefydlog 26A.13(ii).

Gwrthwynebu

26A.15    Caiff person unigol, corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau sydd o’r farn y byddai Bil Preifat a gyflwynid yn y Cynulliad yn effeithio’n andwyol ar eu buddiannau (“gwrthwynebydd”) wneud gwrthwynebiad i’r Llywydd mewn ysgrifen, yn unol â hysbysiad a roddir o dan Reol Sefydlog 26A.13, yn ystod y cyfnod gwrthwynebu a bennir yn Rheol Sefydlog 26A.13(iii).

26.A16    At ddibenion Rheol Sefydlog 26.A15, caiff aelod o’r llywodraeth fod yn wrthwynebydd hefyd.

26A.17    Rhaid i’r Llywydd ddyfarnu a yw gwrthwynebiad yn dderbyniadwy.

26A.18    Dim ond:

(i)     os yw’n cydymffurfio ag unrhyw ganllawiau a roddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17 ynglŷn âgwneud gwrthwynebiad;

(ii)    os yw’n nodi natur y gwrthwynebiad;

(iii)   os yw’n nodi’r darpariaethau yn y Bil Preifat sy’n arwain at y gwrthwynebiad;

(iv)   os yw’n pennu sut y byddai’r Bil Preifat yn effeithio’n andwyol ar fuddiannau’r gwrthwynebydd

y bydd gwrthwynebiad yn dderbyniadwy.

26A.19    Rhaid i’r Llywydd roi gwybod i’r hyrwyddwr am ei benderfyniad o dan Reol Sefydlog 26A.17 ac, os dyfernir nad yw gwrthwynebiad yn dderbyniadwy, rhaid i’r Llywydd roi rhesymau i’r hyrwyddwr dros y penderfyniad hwnnw.

26A.20    Ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben, rhaid i’r Clerc gyhoeddi pob gwrthwynebiad derbyniadwy.

26A.21    Os caiff y Llywydd wrthwynebiad ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben ond cyn y cyfarfod cyntaf ar gyfer Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, ac os ceir gyda’r gwrthwynebiad hwnnw ddatganiad gan y gwrthwynebydd sy’n esbonio’r oedi cyn cyflwyno’r gwrthwynebiad, rhaid i’r Llywydd benderfynu a yw wedi’i fodloni:

(i)     bod y gwrthwynebiad yn dderbyniadwy, yn unol â Rheol Sefydlog 26A.18;

(ii)    bod gan y gwrthwynebydd reswm da dros beidio â gwneud y gwrthwynebiad o fewn y cyfnod gwrthwynebu;

(iii)   bod y gwrthwynebydd wedi gwneud y gwrthwynebiad cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben; a

(iv)   na fyddai’n afresymol ystyried y gwrthwynebiad hwnnw o gofio hawliau a buddiannau’r gwrthwynebwyr a'r hyrwyddwr.

26A.22    Os yw’r Llywydd wedi’i fodloni felly:

(i)     rhaid iddo roi gwybod i’r gwrthwynebydd am ei benderfyniad;

(ii)    rhaid i’r Clerc gyhoeddi’r gwrthwynebiad; a

(iii)   rhaid i’r pwyllgor a sefydlir yn unol â Rheol Sefydlog 26A.25 roi ystyriaeth i’r gwrthwynebiad.

26A.23    Os nad yw’r Llywydd wedi’i fodloni felly, rhaid iddo:

(i)     rhoi gwybod i’r gwrthwynebydd am ei benderfyniad, a

(ii)    rhoi rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r gwrthwynebydd.

26A.24    Caniateir i wrthwynebiad gael ei dynnu’n ôl gan y gwrthwynebydd, yn unol ag unrhyw ganllawiau a roddir gan y Llywydd.

Pwyllgorau Biliau Preifat

26A.25    Pan fydd Bil Preifat wedi’i gyflwyno, ac ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu a bennir yn Rheol Sefydlog 26A.13(iii) ddod i ben, rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig i sefydlu Pwyllgor Bil Preifat, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5.

26A.26    Mae Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.7 yn gymwys i Bwyllgor Bil Preifat ac eithrio bod rhaid iddo gynnwys dim llai na phedwar o aelodau.

26A.27    Rhaid i unrhyw Aelod y mae ganddo, neu y mae’n disgwyl y bydd ganddo, neu hyd y gŵyr yr Aelod, y mae gan ei bartner neu y mae gan unrhyw blentyn dibynnol iddo, neu y maent yn disgwyl y bydd ganddynt, fuddiant y mae’n ofynnol ei gofrestru o dan Reol Sefydlog 2 y gellid barnu ei fod yn rhagfarnu ystyriaeth ddiduedd ar Fil Preifat, beidio â bod yn aelod o’r pwyllgor a sefydlir i ystyried y Bil hwnnw.

26A.28    Rhaid i unrhyw Aelod y cynigir ei enw i fod yn aelod o Bwyllgor Bil Preifat roi gwybod i’r Pwyllgor Busnes am unrhyw fuddiant o’r math y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26A.27 a hefyd am unrhyw fuddiant, heblaw buddiant o’r fath, sydd ganddo neu y mae’n disgwyl y bydd ganddo neu, hyd y gŵyr yr Aelod, sydd gan ei bartner neu sydd gan unrhyw blentyn dibynnol iddo, neu y maent yn disgwyl y bydd ganddynt, y gellid, ym marn yr Aelod hwnnw, farnu ei fod yn rhagfarnu ystyriaeth ddiduedd ar y Bil Preifat.

26A.29    At ddibenion Rheolau Sefydlog 26A.27 a 26A.28, mae ystyron “partner” a “plentyn dibynnol” fel y’u diffiniwyd ym mharagraff 4 o’r Atodiad i Reol Sefydlog 2.

26A.30    Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir yn unol â Rheol Sefydlog 26A.28 ynglŷn ag Aelod y cynigir ei enw i fod yn aelod o Bwyllgor Bil Preifat gael ei gyhoeddi yr un pryd â’r cynnig i sefydlu’r pwyllgor hwnnw.

26A.31    Rhaid i bob aelod o Bwyllgor Bil Preifat, cyn cyfarfod cyntaf y pwyllgor hwnnw, gyflawni cwrs hyfforddi perthnasol fel y pennwyd gan y Llywydd.

26A.32    Rhaid i bob aelod o Bwyllgor Bil Preifat, yng nghyfarfod cyntaf y pwyllgor hwnnw, gytuno i weithredu’n ddiduedd, yn rhinwedd swydd yr Aelod hwnnw fel aelod o’r pwyllgor hwnnw, a seilio penderfyniadau ar y dystiolaeth a’r wybodaeth arall a ddarperir i’r pwyllgor hwnnw yn unig.

26A.33    Rhaid i aelodau Pwyllgor Bil Preifat, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol, fod yn bresennol yn holl gyfarfodydd y Pwyllgor Bil Preifat.

26A.34    Ni chaiff aelod o Bwyllgor Bil Preifat gymryd rhan mewn unrhyw drafodion ar y Bil Preifat oni bai:

(i)     bod yr holl dystiolaeth sy’n ymwneud â’r Bil Preifat hwnnw a roddwyd ar lafar yn ystod trafodion y pwyllgor wedi’i rhoi yng ngŵydd yr Aelod, neu

(ii)    gyda chytundeb yr hyrwyddwr ac unrhyw wrthwynebydd y mae’r dystiolaeth yn ymwneud ag ef, fod yr Aelod hwnnw wedi gweld recordiad neu wedi darllen trawsgrifiad o’r holl dystiolaeth nas rhoddwyd yng ngŵydd yr Aelod. 

26A.35    Nid yw Rheolau Sefydlog 17.12, 17.17 na 17.48 yn gymwys i Bwyllgor Bil Preifat.

26A.36    Nid yw Rheol Sefydlog 17.49 yn gymwys i Bwyllgor Bil Preifat, ac eithrio wrth i’r pwyllgor ystyried trafodion ar welliannau.

Yr Ystyriaeth Gychwynnol

26A.37    Pan fydd y cyfnod gwrthwynebu a bennir yn Rheol Sefydlog 26A.13(iii) wedi dod i ben, rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyfeirio Bil a osodwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.8 at y Pwyllgor Bil Preifat a sefydlwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.25 (“y pwyllgor”), iddo ystyried a ddylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat a chyflwyno adroddiad ar hynny.

26A.38    Wrth ystyried a ddylai Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat, rhaid i’r pwyllgor ystyried:

(i)     a yw’r dogfennau sy’n cyd-fynd â’r Bil ac a osodwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.12, ym marn y pwyllgor, yn ddigonol i ganiatáu gwaith craffu priodol ar y Bil;

(ii)    a gynhaliodd yr hyrwyddwr ymgynghori digonol cyn i’r Bil gael ei gyflwyno;

(iii)   a yw darpariaethau’r Bil yn peri ei fod yn briodol i’w ystyried fel Bil Preifat yn unol â Rheol Sefydlog 26A, gan roi sylw penodol i’r canlynol:

(a)    i ba raddau y mae ei ddarpariaethau yn effeithio ar faterion o bolisi cyhoeddus;

(b)    i ba raddau y mae ei ddarpariaethau yn diwygio neu’n diddymu deddfwriaeth arall;

(c)    maint yr ardal y mae’n ymwneud â hi;

(d)    nifer a natur y buddiannau y mae’n effeithio arnynt.

26A.39    Os yw’n ymddangos i’r pwyllgor nad yw’r dogfennau sy’n cyd-fynd â’r Bil yn ddigonol i alluogi’r pwyllgor i gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26A.37, caiff y pwyllgor, cyn cyflwyno adroddiad ynghylch a ddylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat, ganiatáu unrhyw gyfnod rhesymol y mae’r pwyllgor yn credu ei fod yn briodol i’r hyrwyddwr ddarparu unrhyw wybodaeth arall sydd ym marn y pwyllgor yn angenrheidiol (“dogfennau ategol ychwanegol”).

26A.40    Rhaid i unrhyw ddogfennau ategol ychwanegol gael eu gosod.

26A.41    Ar ôl i’r pwyllgor gyflwyno’i adroddiad, caiff y Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig bod y Cynulliad yn cytuno i’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat.

26A.42    Os cytunir ar gynnig o dan Reol Sefydlog 26A.41, mae’r Bil yn symud ymlaen i Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26A.43    Os na chytunir ar gynnig o dan Reol Sefydlog 26A.41, mae’r Bil yn methu.

26A.44    Mae’r Ystyriaeth Gychwynnol ar ben pan fydd y Cynulliad wedi cytuno y dylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Preifat neu pan fydd y Bil yn methu fel rhan o’r Ystyriaeth Gychwynnol.

Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

26A.45    Mae Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r Ystyriaeth Gychwynnol ddod i ben.

26A.46    Rhaid i’r trafodion adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor gael eu hystyried gan y pwyllgor a sefydlwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.25 ac a ystyriodd drafodion yr Ystyriaeth Gychwynnol ar y Bil Preifat.

26A.47    Adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, rhaid i’r pwyllgor:

(i)     ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat a chyflwyno adroddiad arnynt;

(ii)    ystyried unrhyw wrthwynebiadau derbyniadwy, heblaw unrhyw wrthwynebiad nad oes iddo, ym marn y pwyllgor, sail o sylwedd a chyflwyno adroddiad arnynt; a

(iii)   ystyried manylion y Bil Preifat yn unol â Rheolau Sefydlog 26A.54 i 26A.70 (gan gynnwys unrhyw welliannau derbyniadwy).

26A.48    Mae gan y personau a ganlyn hawl i gael eu gwrando gerbron y pwyllgor yn bersonol, neu i gael eu cynrychioli:

(i)     yr hyrwyddwr;

(ii)    unrhyw wrthwynebydd (yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.51) sydd wedi cyflwyno gwrthwynebiad derbyniadwy y mae’r pwyllgor o’r farn bod iddo sail o sylwedd;

(iii)   aelod o’r llywodraeth;

a chânt gymryd rhan yn y trafodion yn unol ag unrhyw ddyfarniadau gan y Cadeirydd.

26A.49    Caiff y Cadeirydd, wrth ddyfarnu ar sut y caiff gwrthwynebydd (neu berson arall) gymryd rhan yn y trafodion, gymryd i ystyriaeth natur y gwrthwynebiad neu’r sylwadau eraill ac i ba raddau y mae natur y cyfraniad hwnnw yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r pwyllgor i ystyried y gwrthwynebiad a chyflwyno adroddiad arno.  

26A.50    Caiff y Pwyllgor wahodd unrhyw bersonau eraill y mae’n barnu eu bod yn briodol i roi tystiolaeth.

26A.51    Os yw’r pwyllgor o’r farn bod dau neu fwy o wrthwynebiadau yr un fath neu’n debyg i’w gilydd, caiff grwpio’r gwrthwynebiadau hynny gyda’i gilydd a dewis un neu ragor o wrthwynebwyr o’r grŵp hwnnw i roi tystiolaeth ac i gymryd rhan fel arall mewn perthynas â’r gwrthwynebiadau hynny.

26A.52    Os yw’r pwyllgor, wrth baratoi ei adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.47(i) a (ii), yn bwriadu argymell newid yn y Bil Preifat a phe bai’r newid hwnnw, o’i wneud, ym marn pwyllgor, yn effeithio ar fuddiannau’r personau eraill y cyfeirir atynt yn Rheol Sefydlog 26A.53, caiff y Pwyllgor gymryd unrhyw gamau y mae’n barnu eu bod yn briodol er mwyn sicrhau y caiff y personau eraill hynny gyfle rhesymol i gyflwyno sylwadau i’r pwyllgor mewn perthynas â’r argymhelliad hwnnw.

26A.53    At ddibenion Rheol Sefydlog 26A.52, ystyr “personau eraill” yw:

(i)     personau nad effeithiwyd ar eu buddiannau gan y Bil Preifat fel y’u cyflwynwyd ond y byddid yn effeithio ar eu buddiannau pe câi’r newidiadau arfaethedig eu gwneud yn y Bil Preifat, neu

(ii)    gwrthwynebwyr presennol y byddid yn effeithio ar eu buddiannau i raddau helaethach neu mewn ffyrdd newydd pe câi’r newidiadau arfaethedig eu gwneud yn y Bil Preifat, gan arwain at seiliau newydd o sylwedd dros wrthwynebu. 

26A.54    Caniateir i Fil Preifat gael ei ddiwygio yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26A.55    Rhaid i 25 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng y diwrnod y gosodir yr adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.47(i) a (ii) a dyddiad y cyfarfod cyntaf y bydd y pwyllgor yn ystyried manylion y Bil Preifat ynddo yn unol â Rheol Sefydlog 26A.47(iii).

26A.56    Heb fod yn hwyrach na phum diwrnod gwaith ar ôl i adroddiad y pwyllgor gael ei osod, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig na ddylai’r Bil Preifat fynd ymhellach.

26A.57    Os na chyflwynir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.56, bernir bod y Cynulliad wedi cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat a rhaid i’r pwyllgor fynd rhagddo i waredu gwelliannau i’r Bil Preifat, yn unol â Rheol Sefydlog 26A.47(iii).

26A.58    Rhaid trefnu bod amser ar gael i gynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26A.56 gael ei drafod o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad cyflwyno’r cynnig (heb gyfrif diwrnodau gwaith mewn wythnos pan nad yw’r Cynulliad yn eistedd).

26A.59    Os cytunir â chynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26A.56, mae’r Bil Preifat yn methu.

26A.60    Os na chytunir â chynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26A.54, bernir bod y Cynulliad wedi cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil Preifat a rhaid i’r pwyllgor fynd rhagddo i waredu gwelliannau i’r Bil Preifat, yn unol â Rheol Sefydlog 26A.47(iii).

26A.61    Caniateir i welliannau i’w hystyried yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor gael eu cyflwyno heb fod yn gynharach na’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y diwrnod y gosododd y pwyllgor ei adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.47(i) a (ii).

26A.62    O dan amgylchiadau eithriadol, caiff Cadeirydd y pwyllgor dderbyn gwelliant yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor y rhoddwyd llai o hysbysiad ohono na’r hyn sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 26A.97. Cyfeirir at welliant o’r fath fel “gwelliant hwyr”.

26A.63    Mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat, oni bai bod y pwyllgor wedi penderfynu fel arall.

26A.64    Dim ond Aelod sy’n aelod o’r pwyllgor a gaiff gymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor hwnnw at y dibenion a ganlyn:

(i)     cynnig gwelliant neu ofyn am gytundeb i dynnu gwelliant yn ôl; neu

(ii)    pleidleisio.

26A.65    Caniateir i welliant gan Aelod nad yw’n aelod o’r Pwyllgor gael ei gynnig gan aelod o’r pwyllgor.

26A.66    Os cyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Preifat neu atodlen iddo, pan fydd y gwelliant olaf i’r adran honno neu’r atodlen honno wedi’i waredu, rhaid barnu bod y pwyllgor wedi cytuno â’r adran honno neu’r atodlen honno fel y’i diwygiwyd, neu fel arall, at ddibenion trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26A.67    Os na chyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Preifat neu atodlen iddo, bernir bod y pwyllgor wedi cytuno ar yr adran honno neu’r atodlen honno at ddibenion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26A.68    Mae Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ar ben pan fydd y gwelliant olaf wedi’i waredu neu pan fernir bod yr adran neu’r atodlen olaf wedi’i chytuno, pa un bynnag yw’r olaf.

26A.69    Os caiff Bil Preifat ei ddiwygio adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor i fewnosod adran neu atodlen, neu i newid yn sylweddol ar unrhyw ddarpariaeth bresennol, caiff y pwyllgor ofyn i’r hyrwyddwr baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig.

26A.70    Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig y gofynnir amdano o dan Reol Sefydlog 26A.66 gael ei osod o leiaf bum diwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad.

Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad

26A.71    Mae Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ddod i ben.

26A.72    Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng y diwrnod y mae Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad yn dechrau a dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad.

26A.73    Rhaid i Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad gael ei hystyried gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn.

26A.74    Caniateir i Fil Preifat gael ei ddiwygio adeg Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad.

26A.75    Caniateir i welliannau i’w hystyried adeg Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod o’r diwrnod cyntaf y bydd y cyfnod yn dechrau.

26A.76    Caiff y Llywydd ddethol y gwelliannau hynny yr ymdrinnir â hwy adeg Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad.

26A.77    Mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat, oni bai bod y Cynulliad wedi penderfynu fel arall drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes (yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(ii)).

26A.78    Drwy gynnig heb hysbysiad gan y Pwyllgor Busnes (yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(ii)), caiff y Cynulliad gytuno ar un neu fwy o derfynau amser sydd i fod yn gymwys mewn dadleuon ar welliannau (fel y maent wedi’u grwpio gan y Llywydd).

26A.79    Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.78, rhaid i’r dadleuon ar y grwpiau hynny o welliannau gael eu gorffen erbyn y terfynau amser a bennwyd yn y cynnig, ac eithrio i’r graddau y mae’r Llywydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol:

(i)     am fod peidio â chynnig gwelliant wedi arwain at newid trefn trafod y grwpiau; neu

(ii)    i atal unrhyw ddadl ar grŵp o welliannau sydd eisoes wedi dechrau pan gyrhaeddir y terfyn amser rhag cael ei chwtogin afresymol.

26A.80    Dim ond os ydynt, yn ychwanegol at y meini prawf yn Rheol Sefydlog 26A.99, wedi’u bwriadu ar gyfer y canlynol—

(i)     egluro geiriad darpariaeth yn y Bil Preifat (gan gynnwys dileu anghysondebau yn y testunau Cymraeg a Saesneg neu rhyngddynt), neu

(ii)    rhoi eu heffaith i ymrwymiadau a roddwyd ar ran yr hyrwyddwr adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, neu

(iii)   rhoi eu heffaith i unrhyw argymhellion a wnaed gan y pwyllgor yn ei adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.47(i) a (ii),

y mae gwelliannau adeg Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad yn dderbyniadwy.

26A.81    Os cyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Preifat neu atodlen iddo, pan fydd y gwelliant olaf i’r adran honno neu’r atodlen honno wedi’i waredu, rhaid barnu bod y Cynulliad wedi derbyn yr adran honno neu’r atodlen honno fel y’i diwygiwyd, neu fel arall, at ddibenion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad.

26A.82    Os na chyflwynir gwelliant i adran neu atodlen, bernir bod y Cynulliad wedi derbyn yr adran honno neu’r atodlen honno at ddibenion trafodion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad.

26A.83    Mae Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad ar ben pan fydd y gwelliant olaf wedi’i waredu neu pan fernir bod yr adran neu’r atodlen olaf wedi’i derbyn, pa un bynnag yw'r olaf.

Y Cyfnod Terfynol

26A.84    Rhaid i Gyfnod Terfynol Bil Preifat gael ei gymryd gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn.

26A.85    Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.87, caiff unrhyw Aelod, heb fod yn gynharach na phum diwrnod gwaith ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, gyflwyno cynnig bod y Bil Preifat yn cael ei basio.

26A.86    Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil Preifat gael ei basio.

26A.87    Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Preifat yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil Preifat ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

26A.88    Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod Terfynol.

Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd

26A.89    Ar ôl i’r Bil Preifat gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried y Bil Preifat, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:

(i)     os oes cwestiwn ynglŷn â’r Bil Preifat wedii gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 or Ddeddf;

(ii)    os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o’r Ddeddf) wedi’i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â’r cyfeiriad hwnnw; a

(iii)   os nad yw’r naill gyfeiriad na’r llall wedi’i benderfynu neu wedi’i waredu fel arall.

26A.90    Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried y Bil Preifat:

(i)     os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu na fyddai’r Bil Preifat neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; neu

(ii)    os gwneir gorchymyn mewn perthynas â’r Bil Preifat o dan adran 114 o’r Ddeddf.

26A.91    Rhaid i’r trafodion yn y Cyfnod Ailystyried gael eu hystyried gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn.

26A.92    Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Preifat yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26A.99, ac ym marn y Llywydd, wedi’u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy’n destun y canlynol:

(i)     y cyfeiriad at y Goruchaf Lys i gael dyfarniad rhagarweiniol;

(ii)    penderfyniad y Goruchaf Lys; neu

(iii)   y Gorchymyn o dan adran 114 o’r Ddeddf.

26A.93    Oni bai bod y Cynulliad wedi penderfynu, drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes, ym mha drefn y mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu, rhaid eu gwaredu yn y drefn y mae’r darpariaethau y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat.

26A.94    Caiff unrhyw Aelod gynnig bod y Cynulliad yn cymeradwyo Bil Preifat a ddiwygiwyd wrth gael ei ailystyried. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o’r fath.

 

Gwelliannau i Filiau Preifat

26A.95    Mae Rheolau Sefydlog 26A.96 i 26A.104 yn gymwys i drafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, i drafodion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad ac i drafodion y Cyfnod Ailystyried.

26A.96    Rhaid i’r Llywydd benderfynu ar ffurf briodol gwelliannau i Fil Preifat.

26A.97    Ni chaniateir ystyried gwelliant, ac eithrio gwelliant hwyr, oni bai ei fod wedi’i gyflwyno bum diwrnod gwaith cyn iddo gael ei ystyried.

26A.98    Caiff unrhyw Aelod ychwanegu ei enw i welliant (ac eithrio gwelliant hwyr) drwy hysbysu’r Clerc ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y diwrnod gwaith cyn bod y gwelliant i fod i gael ei ystyried.

26A.99    Nid yw gwelliant yn dderbyniadwy:

(i)     os nad yw ar ei ffurf briodol yn unol â Rheol Sefydlog 26A.96;

(ii)    os nad yw’n berthnasol i’r Bil Preifat neu i ddarpariaethau’r Bil Preifat y byddai’n ei ddiwygio;

(iii)   os yw’n anghyson â’r egwyddorion cyffredinol fel yr adroddwyd arnynt gan y pwyllgor ac fel y bernir y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad; neu

(iv)   os yw’n anghyson â phenderfyniad sydd eisoes wedi’i wneud yn y cyfnod pryd y mae’r gwelliant yn cael ei gynnig.

26A.100 Caniateir cyflwyno gwelliant i welliant ac, o’i ddethol, rhaid iddo gael ei waredu cyn y gwelliant y byddai’n ei ddiwygio, a rhaid i Reolau Sefydlog 26A.96 i 26A.104 fod yn gymwys yn unol â hynny.

26A.101 Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.64, caniateir i welliant (ac eithrio gwelliant hwyr) gael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod a’i cyflwynodd ar unrhyw adeg cyn y diwrnod y mae’n cael ei ystyried ond dim ond gyda chytundeb unfrydol unrhyw Aelodau sydd wedi ychwanegu eu henwau i’r gwelliant. Os na sicrheir cytundeb o’r fath, daw’r gwelliant yn welliant yn enw’r Aelod cyntaf a ychwanegodd ei enw i’r gwelliant ac nad yw’n cytuno i’r gwelliant gael ei dynnu'n ôl.

26A.102 Caiff Cadeirydd y pwyllgor neu’r Llywydd, yn ôl fel y digwydd, grwpio gwelliannau at ddibenion dadleuon fel y gwêl yn dda. Ni chaniateir i welliant a drafodwyd fel rhan o grŵp gael ei drafod eto pan ddawn amser ei waredu.

26A.103 Os na fydd Aelod a gyflwynodd welliant yn cynnig y gwelliant pan ddaw’n amser trafod y gwelliant hwnnw, caniateir i’r gwelliant gael ei gynnig:

(i)     yn y pwyllgor adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, gan aelod o’r pwyllgor; neu

(ii)    yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, neu yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, gan unrhyw Aelod arall.

26A.104 Caniateir i welliant sydd wedi’i gynnig gael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod a’i cynigiodd, ond dim ond:

(i)     yn y pwyllgor adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, os na fydd aelod o’r pwyllgor yn gwrthwynebu; neu

(ii)    yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, neu yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, os na fydd Aelod yn gwrthwynebu.

Newid Hyrwyddwr

26A.105 Mae Rheolau Sefydlog 26A.106 i 26A.111 yn gymwys pan na fydd yr hyrwyddwr, cyn i Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ddod i ben, mwyach yn dymuno neu yn gallu sicrhau’r pwerau neu’r manteision a roddir gan y Bil hwnnw, a bod unigolyn, corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig o bersonau (“yr hyrwyddwr newydd”) yn dymuno sicrhau’r pwerau neu’r manteision hynny.

26A.106 Rhaid i’r hyrwyddwr newydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, osod memorandwm sy’n nodi’r rhesymau dros newid hyrwyddwr ac amgylchiadau newid hyrwyddwr.

26A.107 Rhaid i’r pwyllgor, gan gymryd i ystyriaeth y memorandwm a osodir o dan Reol Sefydlog 26A.106 ac unrhyw wybodaeth arall gan yr hyrwyddwr newydd y mae’r pwyllgor yn gofyn amdani, ystyried goblygiadau’r newid hyrwyddwr ar gyfer hawliau a buddiannau’r gwrthwynebwyr, personau eraill ac ar gyfer cynnydd y Bil Preifat.

26A.108 Caiff y pwyllgor, os yw o’r farn bod hynny’n briodol er mwyn amddiffyn hawliau neu fuddiannau gwrthwynebwyr neu bersonau eraill, neu er mwyn sicrhau gwaith craffu priodol ar y Bil Preifat:

(i)     ei gwneud yn ofynnol i’r hyrwyddwr newydd osod dogfennau ategol ychwanegol;

(ii)    ei gwneud yn ofynnol i’r hyrwyddwr newydd roi unrhyw ymrwymiadau y mae’r pwyllgor o’r farn eu bod yn briodol;

(iii)   ei gwneud yn ofynnol i’r trafodion ar y Bil Preifat adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, neu i ran o’r trafodion hynny, ddechrau eto;

(iv)   cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar oblygiadau’r newid hyrwyddwr, gydag argymhelliad na ddylai’r Bil Preifat fynd rhagddo gyda'r hyrwyddwr newydd.

26A.109 Rhaid i adroddiad o dan Reol Sefydlog 26A.108(iv) gael ei ystyried gan y Cynulliad drwy gynnig gan Gadeirydd y pwyllgor.

26A.110 Os cytunir ar gynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109, mae’r Bil Preifat yn methu.

26A.111 Os na chytunir ar gynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109, rhaid i’r pwyllgor neu’r Cynulliad barhau i ystyried y Bil Preifat.

Cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw

26A.112 Os yw Bil Preifat yn cynnwys darpariaeth, neu’n cael ei ddiwygio i gynnwys unrhyw ddarpariaeth a fyddai, pe bai’r Bil Preifat yn Fil ar gyfer Deddf Senedd y Deyrnas Unedig, yn gofyn cydsyniad Ei Mawrhydi neu gydsyniad Dug Cernyw, rhaid i’r Cynulliad beidio â thrafod y cwestiwn a ddylai’r Bil Preifat gael ei basio (neu ei gymeradwyo yn dilyn y Cyfnod Ailystyried) oni bai bod y cydsyniad hwnnw ar gyfer y ddarpariaeth honno wedi’i ddynodi gan aelod o’r llywodraeth yn ystod y trafodion ar y Bil Preifat mewn cyfarfod o’r Cynulliad.

Penderfyniadau Ariannol

26A.113 Rhaid i’r Llywydd benderfynu ym mhob achos a oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Preifat o dan Reolau Sefydlog 26A.114 a 26A.119.

26A.114 Os yw Bil Preifat yn cynnwys darpariaeth:

(i)     sy’n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru; neu

(ii)    y byddai ei heffaith debygol yn arwain at:

(a)    cynnydd arwyddocaol yn y gwariant a godir ar y Gronfa honno;

(b)    gwariant arwyddocaol sy’n daladwy o’r Gronfa honno ar wasanaeth neu ddiben newydd; neu

(c)    cynnydd arwyddocaol yn y gwariant sy’n daladwy o’r Gronfa honno ar wasanaeth neu ddiben presennol,

ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y Bil Preifat mewn unrhyw Gyfnod ar ôl i’r Pwyllgor Bil Preifat gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26A.47(i) a (ii) oni bai bod y Cynulliad wedi cytuno, drwy benderfyniad ariannol, y caniateir i’r gwariant neu’r cynnydd yn y gwariant gael ei godi ar y Gronfa honno neu, yn ôl fel y digwydd, ei dalu ohoni.

26A.115 Os yw:

(i)     Bil Preifat yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n gosod neu’n cynyddu (neu sy’n rhoi pŵer i osod neu i gynyddu) unrhyw dâl, neu fel arall yn ei gwneud yn ofynnol (neun rhoi pŵer iw gwneud yn ofynnol) i unrhyw daliad gael ei wneud; a

(ii)    yn ofynnol, gan neu o dan adran 120(1) o’r Ddeddf, i’r person y mae’r tâl neu’r taliad yn daladwy iddo dalu symiau a dderbynnir i Gronfa Gyfunol Cymru (neu os byddai’n ofynnol gwneud hynny heblaw am unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan adran 120(2)),

ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y Bil Preifat mewn unrhyw Gyfnod ar ôl i’r Pwyllgor Bil Preifat gyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26A.47(i) a (ii) oni bai bod y Cynulliad, drwy benderfyniad ariannol, wedi cytuno â’r tâl, y cynnydd neu’r taliad.

26A.116 Mewn perthynas â Rheol Sefydlog 26A.115:

(i)     bydd yn gymwys dim ond os yw’r tâl, y cynnydd yn y tâl neu’r      taliad yn arwyddocaol; a

(ii)    ni fydd yn gymwys os yw’r tâl, y cynnydd yn y tâl neu’r taliad:

(a)    yn ymwneud â darparu nwyddau ac yn rhesymol o’i gymharu â’r nwyddau a ddarperir; neu

(b)    wedi’i gyfeirio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at adennill cost darparu unrhyw wasanaeth y mae’r tâl yn cael ei osod ar ei gyfer neu y mae’n ofynnol gwneud y taliad ar ei gyfer.

26A.117 Os byddai gwelliant (neu welliannau) i Fil Preifat, o’i dderbyn (neu o’u derbyn), yn golygu y byddai angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Preifat na fyddai ei angen fel arall, ni chaniateir cymryd dim trafodion ar y gwelliant (neu’r gwelliannau) oni bai bod y Cynulliad wedi derbyn cynnig ar gyfer penderfyniad ariannol o’r fath.

26A.118 Dim ond aelod o’r llywodraeth a gaiff wneud cynnig ar gyfer penderfyniad ariannol. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o’r fath.

26A.119 Oni bai:

(i)     bod hysbysiad ynglŷn âchynnig ar gyfer unrhyw benderfyniad ariannol y gofynnir amdano mewn perthynas â Bil Preifat gan Reolau Sefydlog 26A.114 neu 26A.115 yn cael ei gyflwyno o fewn chwe mis ar ôl y dyddiad y mae’r Pwyllgor Bil Preifat wedi cyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 26A47(i) a (ii); a

(ii)    bod y cynnig yn cael ei dderbyn,

mae’r Bil Preifat yn methu.

Hysbysu ynghylch Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau Preifat y Cynulliad

26A.120 Rhaid i’r Clerc hysbysu’r Cynulliad ynglŷn â’r dyddiad y bydd Deddf Breifat Cynulliad yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

Biliau Preifat yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl

26A.121 Os bydd Bil Preifat yn methu neu’n cael ei wrthod gan y Cynulliad, rhaid peidio â chymryd dim trafodion pellach ar y Bil Preifat hwnnw a rhaid peidio â chyflwyno Bil Preifat sydd, ym marn y Llywydd, yn yr un telerau neu delerau tebyg, yn yr un Cynulliad o fewn y cyfnod o chwe mis ar ôl y dyddiad y methodd y Bil Preifat neu y cafodd ei wrthod.

26A.122 Mae Bil Preifat yn methu os nad yw wedi’i basio neu wedi’i gymeradwyo gan y Cynulliad cyn diwedd y Cynulliad y’i cyflwynwyd ynddo.

26A.123 Caniateir i Fil Preifat gael ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg gan yr hyrwyddwr.

 

RHEOL SEFYDLOG 15 – Gweithdrefnau Gosod a Chyflwyno

15.1        Caniateir i’r dogfennau canlynol neu’r categorïau canlynol o ddogfennau gael eu gosod gerbron y Cynulliad:

(i)     dogfen y mae unrhyw ddeddfiad yn pennu bod yn rhaid ei gosod gerbron y Cynulliad neu y caniateir ei gosod gerbron y Cynulliad neu ddogfen sy’n dod o fewn telerau adran 86 o’r Ddeddf neu baragraffau 36 neu 37 o Atodlen 11 iddi;

(ii)    deddfwriaeth neu ddeddfwriaeth arfaethedig neu ddrafft y mae'n ofynnol ei gosod o dan Reolau Sefydlog 25, 26, 26A, 27 neu 28;

(iii)   unrhyw adroddiad a wneir gan un o bwyllgorau'r Cynulliad ac y mae'r pwyllgor hwnnw wedi cytuno y dylid ei gyflwyno i'r Cynulliad, ac eithrio unrhyw adroddiad y mae (iv) isod yn gymwys iddo;

(iv)   unrhyw ddogfen arall a bennir mewn man arall yn y Rheolau Sefydlog y mae'n ofynnol ei gosod yn unol â'r gofynion penodol mewn Rheol Sefydlog; a

(v)    unrhyw ddogfen arall, neu unrhyw gategori arall o ddogfen, y mae'r Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gosod, drwy benderfyniad mewn cyfarfod llawn.